Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (15) |
1. Teyrnged i Lowyr y Gleision
13.31
2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Pwll y Gleision
14.04
3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Cafodd cwestiynau 5 a 10 eu grwpio.
15.07
4. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
15.26
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyngor Sir Penfro
6. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2011 - wedi'i ohirio
16.13
7. Dadl ar Wasanaethau Mamolaeth
NDM4796 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried dull Llywodraeth Cymru o wella
gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru; ac
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn credu:
a) y dylai gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru gael eu trefnu i ddiwallu anghenion menywod a'u babanod;
b) y dylai popeth posibl gael ei wneud i ddiogelu a gwella iechyd menywod a'u babanod; ac
c) y dylai beichiogrwydd a geni plant fod yn brofiad diogel sy'n gwella ac yn cyfoethogi bywyd.
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1
- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru: ac
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
Y byddai llai o gyfleoedd i gael Gwasanaethau Mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn arwain at fwy o risg i famau a babanod.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y pryder sylweddol ymysg y cyhoedd ynghylch dyfodol gwasanaethau mamolaeth yn y Gogledd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warantu darpariaeth gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol mewn ysbytai cyffredinol dosbarth yn y Gogledd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5
- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd mynediad prydlon at wasanaethau mamolaeth brys mewn ardaloedd gwledig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6
- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau mamolaeth a ddarperir i gleifion o Gymru gan ysbytai yn Lloegr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal a chadw llefydd ar gyfer hyfforddiant bydwreigiaeth yng Nghymru, er mwyn darparu lefel gynaliadwy o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer y rheini sy’n gweithio yn y gwasanaethau mamolaeth yn GIG Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun cyflenwi terfynol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth er mwyn ei drafod, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun terfynol ar sut y bydd yn gweithredu ei gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau mamolaeth, yn cynnwys nodau clir a chanlyniadau mesuradwy, er mwyn ei drafod.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Amlinellu’r ffordd y mae’n bwriadu dal
Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif a’r mesurau y bydd yn eu cymryd
i sicrhau bod BILl yn cyrraedd targedau mamolaeth yn y dyfodol;
a
b) Gweithio gyda BILl wrth recriwtio a chadw staff meddygol fel bod
pob BILl:
(i) bodloni’r safon Birthrate plus ar gyfer trefniadau
staffio bydwragedd;
(ii) yn cyflawni’r lefelau staffio a argymhellir gan Goleg
Brenhinol y Nyrsys ar gyfer nyrsio gynaecolegol; a
(iii) yn meddu ar wasanaeth mamolaeth sy’n bodloni’r
safonau ansawdd cenedlaethol drwy’r amser.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4796 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru: ac
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn credu:
a) y dylai gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru gael eu trefnu i ddiwallu anghenion menywod a'u babanod;
b) y dylai popeth posibl gael ei wneud i ddiogelu a gwella iechyd menywod a'u babanod; ac
c) y dylai beichiogrwydd a geni plant fod yn brofiad diogel sy'n gwella ac yn cyfoethogi bywyd.
3. Yn cydnabod y pryder sylweddol ymysg y cyhoedd ynghylch dyfodol gwasanaethau mamolaeth yn y Gogledd.
4. Yn cydnabod pwysigrwydd mynediad prydlon at wasanaethau mamolaeth brys mewn ardaloedd gwledig.
5. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau mamolaeth a ddarperir i gleifion o Gymru gan ysbytai yn Lloegr.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal a chadw llefydd ar gyfer hyfforddiant bydwreigiaeth yng Nghymru, er mwyn darparu lefel gynaliadwy o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer y rheini sy’n gweithio yn y gwasanaethau mamolaeth yn GIG Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
11 |
0 |
55 |
17.19
Cyfnod pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 17.23
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 on Dydd Mercher, 21 Medi 2011